

26.6.25
Y Byngalo, Ffordd Stirling: cyfarfod ymgynghori cyhoeddus
Cyfle i ddweud eich dweud! Cyfarfod Ymgynghori Cyhoeddus Y Byngalo, Heol Stirling yn y Glamorgan Wanderers.
Mae Propel wedi trefnu Cyfarfod Ymgynghori Cyhoeddus ynghylch cynlluniau i ddatblygu safle’r Byngalo ar Heol Stirling, The Drope, Trelái. Mae Propel wedi clywed bod y cais cynllunio blaenorol ar gyfer y safle hwn wedi dod i ben. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd Cymdeithas Tai Cadwyn yn symud ymlaen â chynlluniau datblygu.
DYMA EICH CYFLE OLAF I
- Rannu eich pryderon
- Ofyn cwestiynau
- Gyflwyno eich syniadau
Gadewch i ni sicrhau bod eich lleisiau fel trigolion lleol yn cael eu clywed cyn i gynlluniau newydd gael eu drafftio, a bod dyfodol safle’r Byngalo yn adlewyrchu anghenion ein cymuned.







